2011 Rhif 1450 (Cy.172)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2011/3/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/128/EC sy'n gosod meini prawf purdeb penodol ar liwiau i'w defnyddio mewn bwydydd (OJ Rhif L13, 18.1.2011, t.59) ("y Gyfarwyddeb ddiwygio")

2. Mae'r Gyfarwyddeb ddiwygio yn adolygu'r meini prawf purdeb ar gyfer lycopen sy'n deillio o domatos coch, ac mae'n caniatáu'r defnydd o ddwy ffynhonnell newydd o lycopen yn unol â meini prawf purdeb rhagnodedig.

3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu'r Gyfarwyddeb ddiwygio drwy ddiwygio rheoliad 2 o Reoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3378 (Cy.300)) fel bod diffiniad Cyfarwyddeb 08/128 yn y rheoliad hwnnw yn cynnwys cyfeiriad at y Gyfarwyddeb ddiwygio (rheoliad 2(2)).

4. Mae'r caniatâd i ddefnyddio'r ddwy ffynhonnell newydd o lycopen (lycopen synthetig a lycopen o Blakeslea trispora) yn  cael ei ddwyn i rym yn gynt na'r adolygiad o'r meini prawf purdeb presennol ar gyfer lycopen o domatos coch (rheoliad 3).

5.Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddio mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid ystyriwyd ei bod yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a buddiannau tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 

 


2011 Rhif 1450 (Cy.172)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011

Gwnaed                                8 Mehefin 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       9 Mehefin 2011

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 3

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (f), 17(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([1]) sydd bellach wedi eu breinio ynddynt ([2]).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([3]), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enw

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2)  2011.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009

2.—(1) Mae Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009([4]) wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).

(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), ar ddiwedd y diffiniad o "Cyfarwyddeb 08/128" ychwaneger y geiriau "fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2011/3/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/128/EC sy'n gosod meini prawf purdeb penodol ar liwiau i'w defnyddio mewn bwydydd;"

Cychwyn

3.(1)(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym—

(a)     o ran y cofnodion ar gyfer lycopen synthetig a lycopen o Blakeslea trispora yn adrannau (i) a (iii) yn eu tro o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 2011/3/EU, ar 1 Gorffennaf 2011; a

(b)     o ran y cofnodion ar gyfer lycopen o domatos coch yn adran (ii) o'r Atodiad hwnnw, ar 1 Medi 2011.

(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “Cyfarwyddeb 2011/3/EU” yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2011/3/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/128/EC sy'n gosod meini prawf purdeb penodol ar liwiau i'w defnyddio mewn bwydydd ([5]).


 

Lesley Griffiths

 

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

8 Mehefin 2011

 



([1])           1990 p. 16.  Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S.   2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), "Deddf 1999".    Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S.  2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S.  2004/3279.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru, ac, o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol)i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([3])           OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn cysylltiad â'r weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasu’r weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu - rhan Pedwar (OJ Rhif  L188, 18.7.2009, t.14).

([4])           O.S. 2009/3378 (Cy.300). Diwygiwyd y Rheoliadau hyn gan O.S. 2011/655 (Cy.93).

([5])           OJ Rhif L13, 18.1.2011, t.59.